DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LLYWODRAETH CYMRU

 

TEITL

 

Canlyniad chweched Cyfarfod Cyngor Gweinidogion Addysg y DU

 

DYDDIAD

 

21 Tachwedd 2025

 

 

GAN

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

 

 

Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, ysgrifennaf atoch i'ch hysbysu ynghylch canlyniad chweched cyfarfod Cyngor Gweinidogion Addysg y Deyrnas Unedig, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 13 Tachwedd 2025. 

 

Fel Ysgrifennydd arweiniol y Cabinet ar gyfer y Grŵp Rhyngweinidogol hwn, roeddwn yn y cyfarfod ac yn ei gadeirio ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Yn bresennol yn y cyfarfod oedd Paul Givan MLA, Gweinidog Addysg Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon; Jenny Gilruth MSP, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Sgiliau Llywodraeth yr Alban; a'r Farwnes Jacqui Smith AS, Gweinidog Gwladol yn yr Adran Addysg ar gyfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

Canolbwyntiodd y trafodaethau ar y Cwricwlwm, gan gydnabod bod pawb ar wahanol gamau o'r daith adolygu a diwygio. Roedd hyn yn gyfle pwysig i roi'r diweddaraf am y cynnydd a wnaed a rhannu arferion gorau.

 

Fe wnaeth y Gweinidogion hefyd gydnabod bod cynnydd mewn ymddygiadau heriol mewn ysgolion ers pandemig COVID-19. Amlinellwyd y dulliau effeithiol sydd ar waith i fynd i'r afael â hyn.

 

Ystyriodd y grŵp rôl Deallusrwydd Artiffisial mewn addysg a diogelwch ar-lein, gan roi pwyais arbennig ar baratoi dysgwyr ar gyfer byd sy'n cael ei yrru fwyfwy gan Ddeallusrwydd Artiffisial.

 

Yn olaf, croesawodd y Gweinidogion yr ymdrechion cydweithredol llwyddiannus a sicrhaodd fod myfyrwyr Chevening a myfyrwyr ysgoloriaeth lawn o Gaza yn cyrraedd yn ddiogel i ddechrau eu hastudiaethau ledled y Deyrnas Unedig yr hydref hwn. Disgwylir i'r myfyrwyr hyn chwarae rhan sylweddol wrth ailadeiladu Gaza yn y dyfodol. Er bod y mater hwn y tu allan i gyfrifoldebau adrannoli Gweinidog Addysg Gogledd Iwerddon, nodwyd yr wybodaeth ganddo.

 

Cytunwyd y byddai Llywodraeth yr Alban yn cynnal y cyfarfod nesaf.  Bydd swyddogion yn cydweithio â'u cymheiriaid i osod y thema a'r agenda.